Ymwrthodiad

Rydym yn ceisio sicrhau bod y wybodaeth ar y wefan mor gywir, cyfredol a chyflawn ag sy’n bosibl.
Er hynny, nid yw Cymunedau @Ei Gilydd, Canolfan Cydweithredol Cymru, awduron y cynnwys, unrhyw rai sy’n gysylltiedig â hwy, eu partneriaid, eu cyfarwyddwyr, eu gweithwyr cyflogedig nac unrhyw gynrychiolwyr eraill yn gwneud unrhyw ddatganiadau nac yn rhoi unrhyw warantau o unrhyw fath, yn benodol neu’n oblygedig (ac maent yn ymwrthod yn bendant â hwy), mewn cysylltiad ag unrhyw ddefnydd neu anallu i wneud defnydd o’r wybodaeth, y cynnwys, neu’r deunydd arall sydd wedi’u cynnwys yn y wefan hon.


Ni fyddwn yn gyfrifol ychwaith am unrhyw ddifrod neu golled sy’n gysylltiedig ag amseroldeb, cywirdeb neu gyfanrwydd y wybodaeth, y gwasanaethau, y cynhyrchion, neu unrhyw ddeunydd arall ar y wefan hon.


Ni fydd Cymunedau @Ei Gilydd, Canolfan Cydweithredol Cymru, awduron cynnwys, unrhyw rai sy’n gysylltiedig â hwy, eu partneriaid, eu cyfarwyddwyr, eu gweithwyr cyflogedig nac unrhyw gynrychiolwyr eraill yn atebol dan unrhyw amgylchiadau am unrhyw ganlyniad sy’n ymwneud yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol ag unrhyw weithred neu anwaith a gyflawnwch ar sail y wybodaeth, y gwasanaethau neu unrhyw ddeunydd arall ar y wefan hon.


Mae ymwelwyr sy’n defnyddio’r wefan hon ac yn dibynnu ar unrhyw wybodaeth yn gwneud hynny ar eu menter eu hun.


Nid yw Cymunedau @Ei Gilydd na Chanolfan Cydweithredol Cymru yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys gwefannau cysylltiedig ac ni ddylid cymryd bod dolenni’n dangos cymeradwyaeth o unrhyw fath. Nid oes gennym unrhyw reolaeth ar argaeledd y tudalennau cysylltiedig.


Ac eithrio fel y nodir yn benodol ar y wefan hon, i’r graddau mwyaf a ganiateir dan y gyfraith, ni fydd Cymunedau @Ei Gilydd na Chanolfan Cydweithredol Cymru, nac unrhyw rai sy’n gysylltiedig â hwy, eu partneriaid, eu cyfarwyddwyr, eu gweithwyr cyflogedig nac unrhyw gynrychiolwyr eraill yn atebol i dalu iawndal sy’n codi o ganlyniad i neu mewn cysylltiad â’r defnydd o’r wefan hon neu’r wybodaeth, y cynnwys, y deunyddiau neu’r cynhyrchion sydd wedi’u cynnwys ynddi.


Cyfyngiad cynhwysfawr ar atebolrwydd yw hwn sy’n gymwys i iawndal o bob math, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt), iawndal ad–daliadol, uniongyrchol, anuniongyrchol neu ganlyniadol, colli data, incwm neu elw, colli eiddo neu ddifrod i eiddo a hawliadau gan drydydd parti.