Polisi Preifatrwydd

Cwcis

Llinynnau alffaniwmerig syml sy'n cael eu storio ar eich cyfrifiadur yw cwcis (gwefan allanol). Ni fyddwn yn defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth sy'n dangos pwy ydych chi, ac eithrio gwybodaeth sylfaenol y byddwch yn ei rhoi os byddwch yn creu cyfrif ar ein gwefan.

Byddwn yn defnyddio cwcis er mwyn casglu ystadegau ynghylch defnydd o'r wefan. Bydd Google Analytics yn rhoi cwci ar eich cyfrifiadur i storio gwybodaeth sylfaenol am eich ymweliad diweddaraf â'r wefan. Darllenwch am y cwcis sy'n cael eu defnyddio gan Google Analytics (gwefan allanol).

Fodd bynnag, os ydych chi am atal neu gyfyngu ar y cwcis yr ydym ni, neu unrhyw wefannau eraill, yn eu defnyddio, gallwch wneud hyn drwy newid gosodiadau eich porwr. Dylai'r adnodd Help yn eich porwr ddweud wrthych sut i wneud hyn.

Gallwch osod eich porwr i dderbyn neu wrthod cwcis, naill ai pob un neu ambell un ohonynt. Gallwch hefyd osod eich porwr i roi gwybod i chi bob tro y bydd cwci yn cael ei gynnig. I gael manylion ynghylch sut i wneud hyn ar y porwr rydych chi'n ei ddefnyddio, ewch i AboutCookies.org (gwefan allanol).

I weld beth yw fersiwn y porwr rydych chi'n ei ddefnyddio, cliciwch ar 'Help' ac yna 'Ynghylch' (enw'r porwr). 

 

Adrodd ar Weithgarwch ar y We

Rydym yn defnyddio ‘Google Analytics’ i fonitro defnydd o’r wefan. Mae’r rhaglen hon yn cofnodi’ch cyfeiriad IP, y math o borwr, a dyddiad ac amser y gweithgarwch. Nid oes unrhyw gyswllt rhwng yr wybodaeth hon a data sy’n dangos pwy ydych chi (fel cyfeiriad e-bost). Bydd Canolfan Cydweithredol Cymru yn defnyddio’r wybodaeth hon i ddadansoddi ymweliadau cyffredinol â’n tudalennau a’r rhieni sy'n cael eu cyfeirio at y wefan, er mwyn cael syniad o’r patrymau traffig ac effeithiolrwydd lleoliadau. Mae'r wybodaeth hon yn ein helpu i wella'r wefan yn barhaus er eich budd chi, y defnyddiwr.

 

Cysylltu â Ni

Byddwn bob amser yn falch o glywed gennych. Os byddwch yn cysylltu â ni yn gofyn am wybodaeth, efallai y bydd angen i ni gysylltu â thrydydd parti arall er mwyn cael gafael ar yr wybodaeth honno.

Ni fyddwn yn rhannu unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch wrth ymdrin â'ch ymholiad, oni bai eich bod wedi rhoi caniatâd i ni wneud hynny. Pan fyddwn wedi anfon ateb atoch, byddwn yn cadw cofnod o'ch neges at ddibenion archwilio.

 

Cofrestru

Nid oes yn rhaid i chi gofrestru i ddefnyddio gwefan Canolfan Cydweithredol Cymru, ond bydd angen i chi gofrestru er mwyn rhoi sylwadau ar erthyglau a gweithdai, ac os ydych chi'n dymuno cael e-gylchlythyr neu'r wybodaeth ddiweddaraf dros e-bost.

Gallwch newid eich dewisiadau cofrestru, eich cyfeiriad e-bost a'ch manylion mewngofnodi drwy'r wefan ar unrhyw adeg. Os hoffech chi newid eich proffil personol, cliciwch ar y ddolen 'Mewngofnodi' ar frig y dudalen, mewngofnodi i'ch cyfrif, a thicio/dad-dicio'r dewisiadau yn 'Golygu fy mhroffil'.

 

Cylchlythyrau

Ni fyddwn yn anfon cylchlythyrau atoch chi dros e-bost oni bai eich bod wedi dweud eich bod yn dymuno eu cael.

 

Deddf Diogelu Data

Yn unol â'r Ddeddf Diogelu Data, mae'n ddyletswydd arnom yn ôl y gyfraith i ddiogelu unrhyw wybodaeth a gasglwn gennych chi. Rydym yn defnyddio'r dechnoleg a'r meddalwedd amgryptio diweddaraf i ddiogelu eich data, ac yn glynu wrth safonau diogelwch llym i rwystro defnydd ohono heb awdurdod.

Ni fyddwn yn anfon eich manylion at unrhyw drydydd parti heb eich caniatâd. 

 

Gweld yr wybodaeth amdanoch a chysylltu â ni

Os ydych chi'n dymuno gweld y cofnodion sydd gennym o unrhyw ohebiaeth rydych chi wedi'i hanfon atom, neu os oes gennych ymholiad neu gŵyn ynglŷn â'r polisi preifatrwydd hwn neu am y safle, gallwch gysylltu â'n rheolwr gwybodaeth drwy anfon e-bost at info@walescooperative.org.

 

Newidiadau i'r polisi preifatrwydd hwn

Os bydd y polisi preifatrwydd hwn yn newid mewn unrhyw ffordd, byddwn yn rhoi'r fersiwn ddiweddaraf ar y dudalen hon. Drwy daro golwg ar y dudalen hon yn rheolaidd, byddwch bob amser yn gwybod pa wybodaeth y byddwn yn ei chasglu, sut byddwn yn ei defnyddio, ac ym mha amgylchiadau (os o gwbl), y byddwn yn ei rhannu â phartïon eraill.