Blwyddyn Ryngwladol y Mentrau Cydweithredol 2012
Bydd y flwyddyn nesaf yn flwyddyn gyffrous i'r sector cydweithredol gan fod y Cenhedloedd Unedig wedi enwi 2012 yn Flwyddyn Ryngwladol y Mentrau Cydweithredol. Mae nifer o ffyrdd y gallwch chi a'ch mudiad ymuno yn y digwyddiadau.
Mae'n gyfle ardderchog i gyfleu'r neges bod mentrau cydweithredol yn fusnesau llwyddiannus sy'n barod i fodloni anghenion economi fodern.
Gallech:
- hyrwyddo'r flwyddyn ar eich gwefan neu ar ddeunyddiau hyrwyddo
- cynnal diwrnod agored
- cynnig cyfnod o brofiad gwaith mewn menter gydweithredol i fyfyriwr
Rhowch wybod i ni beth rydych chi'n ei wneud!
Bydd Canolfan Cydweithredol Cymru yn canolbwyntio ar wahanol sectorau o'r Economi Gydweithredol ar wahanol adegau o'r flwyddyn. Cadwch olwg am ddigwyddiadau a allai fod o ddiddordeb i chi, a rhowch wybod i ni os hoffech chi dderbyn yr w ybodaeth ddiweddaraf.
Mis Ionawr – Yr Economi Gydweithredol yng Nghymru
- Bydd adroddiad newydd sy'n edrych ar yr economi gydweithredol yng Nghymru yn cael ei lansio yn y Senedd.
Mis Mawrth – Olyniaeth Busnes
- Adroddiad sy'n edrych ar fanteision perchnogaeth gan weithwyr ac ymweliad astudio.
- Dangos ffilm – cwrdd â mentrau cydweithredol eraill a thrin a thrafod syniadau newydd.
Mis Mehefin – Consortia o Fentrau Cydweithredol
- Adroddiad sy'n edrych ar gonsortia o fentrau cydweithredol
Mis Hydref a mis Tachwedd – Mentrau Cydweithredol Cymunedol
- Arddangosfa Mentrau Cydweithredol ym Manceinion (wythnos 30ain Hydref). Os hoffai eich menter gydweithredol gymryd rhan gyda ni, rhowch wybod i ni.
Digwyddiadau eraill
Cynhelir Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Ganolfan ddiwedd Mai, ac eleni byddwn yn dathlu ein pen-blwydd yn 30 oed. Gwahoddir aelodau.
