Busnesau marchnata’n disgleirio gyda’i gilydd – dan un ymbarél
Mae grŵp o dri o bobl fusnes lwyddiannus yn dod ynghyd dan ymbarél cwmni cydweithredol newydd. Bydd ‘That Useful Company’ yn cael ei lansio yn Arddangosfa the Business Network yng Ngwesty Hamdden y Fro yng Nghaerdydd (Dydd Iau 4 Hydref). Mae’r tri chydweithiwr o Abertawe, sydd ill tri’n gweithio fel busnesau unigol, wedi ffurfio consortiwm i ddarparu ystod eang o wasanaethau marchnata wedi’u teilwra’n arbennig ar gyfer cleientiaid ar hyd a lled Cymru. Crëwyd ‘That Useful Company’ fel modd i alluogi’r aelodau unigol i dendro am gontractau mwy ac i gynnig ystod ehangach o wasanaethau ar gyfer eu cwsmeriaid presennol.
Mae cymorth ar gyfer That Useful Company wedi dod oddi wrth Ganolfan Cydweithredol Cymru, a gyllidir trwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Llywodraeth Cymru. Bu tîm datblygu Consortia Canolfan Cydweithredol Cymru’n gweithio gydag aelodau o That Useful Company i lunio’u nodau a’u hamcanion ac i gorffori’r busnes.
Dewisodd y tri aelod o That Useful Company, Natalie Reynolds, Ben Wheeler a Matthew Pugh, ddull consortiwm gan ei fod yn galluogi’r busnesau unigol i weithredu’n annibynnol a chynnal eu hunaniaeth eu hunain, ond hefyd i gydweithio a gweithio i gleientiaid mwy er mwyn helpu i dyfu eu busnesau. Bydd That Useful Company yn gallu cynnig ystod integredig o wasanaethau marchnata gan gynnwys llunio strategaeth farchnata, defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, dylunio gwefannau, brandio, marchnata trwy’r e-bost a thrwy gyfrwng deunyddiau wedi’u hargraffu.
Fe eglurodd Natalie Reynolds, sy’n rhedeg busnes llwyddiannus ym maes y cyfryngau cymdeithasol, pam ei bod wedi dewis y dull yma. ‘Ar ôl gweld fy musnes yn tyfu’n gyflym mewn 18 mis yn unig roedd pobl yn aml yn gofyn i mi sut fyddwn i’n tyfu fy musnes ymhellach. Serch hynny, nid oedd cyflogi staff i’w weld fel y dewis mwyaf priodol gan fod y gwasanaethau yr wyf fi’n eu darparu’n seiliedig ar fy mhrofiad i fy hun. Yn hytrach na hynny, dewisais ddod â grŵp o weithwyr marchnata proffesiynol ynghyd i weld a allem ni gydweithio, gan roi cymorth a rhannu ein profiadau i wella’r gwasanaethau yr ydym yn eu cynnig i’n cleientiaid. Fe weithion ni gyda Chanolfan Cydweithredol Cymru i roi strwythur ffurfiol i’n grŵp gyda’r bwriad o gynnig am gontractau mwy i helpu i ehangu ein busnesau unigol’.
Mae Ben Wheeler yn ddylunydd gwefannau a datblygwr meddalwedd. Meddai, ‘Rwyf wedi bod yn gweithio ar fy liwt fy hun ac wedi creu busnes llwyddiannus dros y 4 blynedd ddiwethaf; ond pan gefais gynnig i gydweithio gydag unigolion eraill er mwyn gallu gweithio i gleientiaid mwy a rhannu adnoddau gan ddal i allu cadw fy hunaniaeth a chleientiaid busnes fy hun ar yr un pryd, roeddwn yn meddwl ei fod yn syniad ardderchog ac yn gweddu i’m cynlluniau ar gyfer twf hefyd. Mae Canolfan Cydweithredol Cymru wedi bod yn wych wrth roi cymorth i ni gyflawni hyn’.
Roedd arbenigedd Matthew Pugh ym maes dylunio ac argraffu yn golygu ei fod wedi cydweithio gyda Natalie a Ben ar sawl achlysur cyn ymuno â hwy i ffurfio’r consortiwm, ‘A minnau wedi cydweithio gyda Ben a Nat i gleientiaid roedd gweithio o fewn y cwmni newydd yma i’w weld yn gam rhesymegol ymlaen ar gyfer fy musnes i. Mae menter gydweithredol a grëwyd yn benodol rhyngom yn rhoi mwy o rym i bob un ohonom wrth fynd at gleientiaid mwy ac fel grŵp cydweithredol rydym yn gallu ategu busnesau unigol ein gilydd a chynnal hunaniaeth ein cwmnïau ein hunain. Mae That Useful Company yn ein galluogi i gynnig ystod fwy o fanteision a gwasanaethau i gleientiaid presennol ac mae hefyd yn rhoi mwy o sefydlogrwydd a sicrwydd i’m cwmni unigol i ar gyfer y dyfodol”.
Cafodd y consortiwm ei ffurfio allan o grŵp o ffrindiau a chydweithwyr a ddatblygodd trwy ddigwyddiadau rhwydweithio i fusnesau bychain. Yn addas ddigon, mae’r darn mawr cyntaf o waith gan y consortiwm yn un ar gyfer rhwydwaith busnes. That Useful Company oedd yn gyfrifol am yr ymgyrch marchnata ar gyfer Arddangosfa the Business Network – gan reoli’r elfennau brandio, y wefan, hysbyslenni, hysbysebion mewn papurau newydd, ffrwd cyfryngau cymdeithasol a chasglu data ar Facebook.
Meddai Sarah Owens, y Swyddog Datblygu a fu’n gweithio gyda That Useful Company o’i gyfarfod cychwynnol nes iddo gael ei gorffori’n gwmni cyfyngedig drwy gyfranddaliadau, ‘Roedd yn brofiad gwych gweithio gyda’r tîm creadigol yn That Useful Company. Mae gan Natalie, Ben a Matthew ddull arloesol o dyfu eu busnes sy’n adeiladu ar eu cryfderau unigol ac yn eu galluogi i barhau i ddatblygu eu busnesau eu hunain yn annibynnol ar y consortiwm’.
Meddai Rheolwr Prosiect Olyniaeth Busnes a Chonsortia Canolfan Cydweithredol Cymru, Rhian Edwards, ‘Mae Cymru’n ddibynnol ar ei sector microfusnesau. Mae’r sector yn rhoi cyfrif am 94.5% o’r holl fusnesau yng Nghymru. Roedd Adroddiad y Grŵp Tasg a Gorffen Microfusnesau yn cefnogi’r dull consortia i roi gwell mynediad i ficrofusnesau at gyfleoedd caffael yn y sector cyhoeddus. Mae lansiad ‘That Useful Company’ yn dangos yr uchelgais sy’n bodoli yn y sector microfusnesau yng Nghymru i dyfu ac ehangu a gweithio ar gontractau mwy ac rydym yn dymuno’r gorau i Natalie, Ben a Matthew gyda’r fenter newydd hon’.
Mae mwy o wybodaeth am fanteision consortia i fusnesau ar gael ar wefan Canolfan Cydweithredol Cymru www.walescooperative.org. Gallwch ddod i wybod mwy am That Useful Company yn www.thatusefulcompany.co.uk o ddydd Iau ymlaen.