Cwestiynau am Fasnach Deg
- Beth yw manteision Masnach Deg i gynhyrchwyr?
- Beth yw ystyr bod yn Genedl Masnach Deg?
- Beth yw Masnachu Moesegol?
- Pa gynlluniau moesegol eraill sydd ar gael?
- Beth yw ystyr 'wedi'i fasnachu'n deg'?
- Sut mae newid i Fasnach Deg
Beth yw manteision Masnach Deg i gynhyrchwyr?
- Mae’r isafswm gwarantedig yn golygu bod tyfwyr yn gallu fforddio gwella’u cyfleoedd bywyd, drwy gael y cyfle i anfon eu plant i’r ysgol er enghraifft.
- Mae’r cynhyrchwyr hefyd yn cael 'premiwm cymdeithasol' o elw Masnach Deg. Maent yn penderfynu ar y cyd sut i wario’r arian hwn i wella’u cymuned, gan adeiladu ffynhonnau mewn sawl achos i wella'r cyflenwad dŵr.
- Mae’r broses ddemocrataidd o wneud penderfyniadau yn rhoi llais i fenywod. Mae rhai sefydliadau’n darparu rhaglenni datblygu ar gyfer menywod, megis Kuapa Kokoo yn Ghana.
- Gan fod llai o bwysau i gynhyrchu cymaint o gynnyrch â phosib, sy'n golygu defnyddio llai o blaleiddiaid a bod mwy o arian ar gael i ailfuddsoddi, mae cynnyrch Masnach Deg yn aml iawn yn well i'r amgylchedd ac i ddefnyddwyr. Mewn mannau lle na ddefnyddir plaleiddiad mwyach a lle mae ffermio organig yn cael ei ddatblygu, er enghraifft wrth gynhyrchu cotwm neu de, mae'r cynhyrchwyr yn aml yn cael llai o salwch.
- Ar gyfer mentrau cydweithredol, mae defnyddio cynnyrch Masnach Deg yn dod â’r 6ed egwyddor yn fyw – ‘Cydweithredu ymhlith mentrau cydweithredol’. Mae llawer o gynhyrchwyr yn gweithio mewn mentrau cydweithredol, megis cynhyrchwyr gwin De Affrica, felly mae’n naturiol eu cefnogi.
- Os hoffech gael gwybod mwy am y manteision i gynhyrchwyr, ewch i Fairtrade.org.
Beth yw ystyr bod yn Genedl Masnach Deg?
Cymru yw Cenedl Masnach Deg gyntaf y byd. Cafodd y cyhoeddiad ei wneud mewn uwchgynhadledd Masnach Deg ryngwladol yng Nghasnewydd ym mis Mehefin 2008.
Bodlonwyd meini prawf a osodwyd yn ôl yn 2006, megis bod grwpiau Masnach Deg gweithredol mewn 55% o drefi yng Nghymru, a bod gan bob sir a dinas statws Masnach Deg. Cynhaliwyd yr ymgyrch gan Fforwm Masnach Deg Cymru, y mae Canolfan Cydweithredol Cymru yn aelod gweithredol ohono.
Beth yw Masnachu Moesegol?
Masnachu moesegol yw’r term a ddefnyddiwn i sôn am amodau gweithio pobl – nid ffermwyr o reidrwydd, ond pobl sy’n gweithio mewn ffatrïoedd hefyd.
Mae’r Cynllun Masnachu Moesegol yn gynghrair o gwmnïau, cyrff anllywodraethol ac undebau llafur. Maent yn gweithio i hyrwyddo a gwella codau ymarfer corfforaethol, sy’n cynnwys amodau gweithio yn y gadwyn gyflenwi er mwyn bodloni safonau llafur rhyngwladol. Mae'r aelodau’n ymrwymo i god sylfaenol – yn sgil argymhellion y Sefydliad Llafur Rhyngwladol.
Pa gynlluniau moesegol eraill sydd ar gael?
Mae cynllun Cynghrair y Fforestydd Glaw yn hyrwyddo arferion ffermio cynaliadwy drwy weithio mewn ffordd sy'n rhoi pwyslais ar gadwraeth.
Beth yw ystyr 'wedi'i fasnachu'n deg'?
Mae 'wedi’i fasnachu’n deg' yn awgrymu bod meini prawf cod sylfaenol y Sefydliad Llafur Rhyngwladol ar hawliau gweithwyr wedi’u bodloni. Mae hyn yn cynnwys pethau y gall gweithwyr ym mhob rhan o'r byd eu disgwyl, megis isafswm cyflog, iechyd a diogelwch, a dim camfanteisio ar lafur plant.
Mae hefyd yn awgrymu y caiff manteision eraill masnach deg eu cynnig, megis talu ymlaen llaw, datblygu capasiti a phremiwm cymdeithasol. Caiff ei ddefnyddio fel arfer pan nad oes system ardystio swyddogol yn bodoli, ar gyfer cynnyrch megis crefftau llaw neu rwber.
Cadwch lygad ar agor am gyflenwyr sydd wedi’u cofrestru’n aelodau o BAFTS neu Sefydliad Masnach Deg y Byd, sy’n golygu bod y sefydliad wedi cytuno i ddilyn egwyddorion Masnach Deg.
Sut mae newid i Fasnach Deg?
Edrychwch ar restr o gynnyrch Masnach Deg y gallech chi eu gwerthu neu'u cynnig i'ch staff.
Mabwysiadwch bolisi Masnach Deg ar gyfer eich busnes.
Mwy o wybodaeth