Cyflwyniad i hyfforddiant

Datblygu dysg a sgiliau

 

Mae Canolfan Cydweithredol Cymru yn ddarparwr hyfforddiant blaenllaw i'r trydydd sector yng Nghymru.

 

Mae ein gweithdai wedi'u llunio'n benodol ar gyfer busnesau newydd, busnesau sy'n tyfu a busnesau sydd wedi'u sefydlu, gan gynnwys undebau credyd, a mentrau cymdeithasol a chydweithredol. 

 

Rydym wedi ymrwymo i helpu mudiadau'r trydydd sector i feithrin galluoedd a sgiliau allweddol er mwyn gallu datblygu a thyfu, a dal ati i wella bodlonrwydd cwsmeriaid a chadw'r cwsmeriaid hynny.

 

Mae Canolfan Cydweithredol Cymru yn cynnig amrywiaeth o weithdai, dosbarthiadau meistr a Bespoke Trainingseminarau, sydd â'r bwriad o wella galluoedd, sgiliau a gwybodaeth rheolwyr a staff y trydydd sector yn ogystal â'r gwirfoddolwyr ar bob lefel.

 

Fodd bynnag, gall pawb fanteisio ar yr hyfforddiant. Gallwn drefnu gweithdai wedi'u teilwra'n arbennig ar gyfer eich mudiad. Mae croeso i chi gysylltu os hoffech gael rhagor o wybodaeth.

 

Mae ein gweithdai'n cael eu cynnal gan bobl fusnes brofiadol a hyfforddwyr cymwys a fydd yn gallu eich helpu i ddatblygu'r sgiliau angenrheidiol.

 

 

Rydym yn cynnig sawl ffordd i gymryd rhan mewn cyfleon dysgu:

 

Gweithdai: Gweithdai undydd neu ddeuddydd gyda’r pwyslais ar ddysgu sgiliau newydd drwy ymarferion ymarferol, trafodaeth grŵp a chyfnewid syniadau.  Cynllunnir y gweithdai i fod yn hwyl ac yn rhyngweithiol, gan roi digon o gyfle ichi roi cynnig ar sgiliau newydd cyn mynd yn ôl i’ch sefydliad.

 

Seminarau: Seminarau hanner diwrnod dwys sy’n canolbwyntio ar feysydd arbenigol.  Bydd cyflwyniad a fformat trafod y digwyddiadau hyn yn caniatáu i’r rhai sy’n cymryd rhan rannu profiadau mewn maes penodol dan arweiniad arbenigwr.

 

Dosbarthiadau meistr: Caiff aelodau ein dosbarthiadau meistr gyfle i gyfarfod a rhannu profiadau unigolyn sydd wedi sefydlu menter gymdeithasol, neu arbenigwr mewn maes arbennig.

 

Hwyrach y bydd cyllid ar gyfer hyfforddiant ar gael oddi wrth Lywodraeth Cymru - ffoniwch 0845 60 661 60 neu ebostiwch businessskillshotline@wales.gsi.gov.uk am fwy o wybodaeth.

 

Prisiau
Mae pob cwrs yn rhad ac am ddim i gleientiaid y Prosiect Cefnogi Mentrau Cymdeithasol, yn amodol ar gymeradwyaeth gan un o Swyddogion Datblygu Canolfan Gydweithredol Cymru.  I bawb arall codir tâl penodol.

 

Ein cleientiaid

 

Rydym yn darparu hyfforddiant i’r canlynol:
•Mentrau cymdeithasol
•Mentrau cydweithredol
•Undebau credyd
•Grwpiau cymunedol a gwirfoddol
•Cyrff yn y sector cyhoeddus
•Cyrff yn y sector preifat

 

Mae’r gweithdai, y seminarau a’r dosbarthiadau meistr a amlinellir yn ein taflen datblygu dysg a sgiliau am ddim i gleientiaid y Prosiect Cefnogi Mentrau Cymdeithasol, yn amodol ar gymeradwyaeth gan un o Swyddogion Datblygu Canolfan Cydweithredol Cymru. Mae'n rhaid i bob mudiad arall dalu'r ffioedd perthnasol.

 

I gael rhagor o wybodaeth am ein polisi wedi'i deilwra'n arbennig, ffoniwch 02920 556194.