Datblygu busnes arbenigol Masnach Deg
Entrepreneuriaid Moesegol
Wrth i’r farchnad Masnach Deg ddatblygu a gan mai Cymru yw’r Genedl Masnach Deg gyntaf, efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn rhedeg busnes sy’n arbenigo mewn Masnach Deg neu ddatblygu cynnyrch newydd ar gyfer y farchnad hon.

Gallai busnesau Masnach Deg arbenigol fod yn:
- Siopau
- Caffis
- Mewnforwyr
- Cynhyrchwyr bwyd
Sut gallwn ni helpu?
I’ch helpu i rannu syniadau a chynyddu eich effaith marchnata, rydym yn cynnig cyfarfodydd dysgu a rhwydweithio yng Ngogledd a De Cymru. Cysylltwch â ni ar 029 2055 4955 neu anfonwch neges e-bost at fairtrade@walescooperative.org
Byddem wrth ein boddau'n eich helpu i ddenu sylw at eich cynnyrch neu wasanaeth yng Nghymru, felly cadwch mewn cysylltiad. Fe allem ni gynnwys eich newyddion yn ein e-newyddlen, yn ein rhestr o gyflenwyr neu pan fyddwn yn rhoi'r newyddion diweddaraf ar y cyfryngau cymdeithasu, gallem ymuno â chi mewn digwyddiadau hefyd, neu eich cyflwyno i rwydweithiau Masnach Deg.
Datblygu eich busnes neu gynnyrch Masnach Deg
Ymchwilio i’r gystadleuaeth
Edrychwch pwy arall sydd yn y farchnad foesegol yn lleol, neu sy’n gwerthu’r un
cynnyrch â chi. Ceisiwch gynnig rhywbeth sy’n unigryw. Gallech fynd at
fanwerthwyr tebyg a’u trin fel ffrindiau beirniadol, gan elwa o’u profiadau. Bydd
ein map a’n cyfeiriadur yn eich helpu i ganfod cyflenwyr ac arbenigwyr eraill.
Marchnad darged
Dylech ymchwilio i faint tebygol eich sylfaen cwsmeriaid. Mae’n hanfodol eich bod yn meddwl am ddarparu’r cynnyrch cywir i’ch cwsmeriaid am y pris cywir, ar yr adeg gywir ac yn y lle cywir. Dylech ystyried ffyrdd pobl o fyw, daearyddiaeth a rhyw ar gyfer pob cynnyrch neu wasanaeth. I gael rhagor o help i ymchwilio i’ch marchnad darged, beth am fynd ar un o'n cyrsiau marchnata?
Cyngor busnes
Ewch i siarad â’ch cynghorydd busnes lleol er mwyn cael help gyda chynllunio ariannol. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn strwythur menter gymdeithasol neu fenter gydweithredol, mae’n bosib y gallech ddefnyddio gwasanaethau di-dâl Canolfan Cydweithredol Cymru. Bydd angen i chi ganolbwyntio ar greu twf a swyddi ar gyfer mentrau cymdeithasol yn Ardal Cydgyfeirio Cymru.
Cyrff masnach a labelu
Labelu Masnach Deg
Os ydych chi’n bwriadu defnyddio’r nod masnach Masnach Deg, bydd angen i chi fodloni holl feini prawf y Sefydliad a gwneud cais am drwydded. Telir canran o’r trosiant mewn ffioedd trwydded. Mantais defnyddio’r drwydded yw y bydd eich cwsmeriaid yn adnabod y nod masnach a bydd ganddynt ffydd yn eich cynnyrch. Dylech sicrhau bod ardystiad Masnach Deg yn berthnasol i’ch cynnyrch chi. Os yw’r cynnyrch yn cynnwys cymysgedd o gynhwysion, e.e. cacen, yna bydd y meini prawf ar gyfer pwysau neu ganran y cynhwysion yn berthnasol.
Cymdeithas Siopau Masnach Deg Prydain (BAFTS)
Os ydych chi’n agor siop Masnach Deg neu os ydych chi’n mewnforio crefftau ac yn dymuno marchnata’ch hun fel rhywun sy’n masnachu’n deg, gallai ymaelodi â BAFTS eich helpu. Mae ffioedd aelodaeth yn rhesymol, ac os cewch eich cymeradwyo, cewch ddefnyddio logo BAFTS. Bydd angen cyfrifon chwe mis arnoch, ond mae’n bwysig eich bod yn edrych ar y meini prawf nawr gan efallai y bydd angen i chi gynnwys hyn yn eich cytundeb masnachu â chymunedau’r cynhyrchwyr.
Meini prawf ar gyfer manwerthu (gwefan allanol)
Meini prawf ar gyfer mewnforio (gwefan allanol)
Sefydliad Masnach Deg y Byd
Mae gan y sefydliad hwn aelodau sy’n adlewyrchu holl amcanion masnachu’n deg. Er mwyn ymaelodi, bydd angen cyfrifon tair blynedd arnoch.
