Diffiniadau Amrywiaeth

Er mwyn helpu i ddeall Amrywiaeth, mae'r dudalen hon yn esbonio'n fras beth yw ystyr rhai o'r prif ymadroddion a ddefnyddir wrth ymdrin ag Amrywiaeth.

 

Gwahaniaethu ar sail Oed

Stereoteipio a rhagfarnu pobl ar sail oed.

 

Ymddangosiad

Y modd y mae rhywun neu rywbeth yn edrych i bobl eraill.

 

Cred

Yr ymdeimlad o sicrwydd bod rhywbeth yn bodoli neu'n wir.

 

Anabledd

Mae anabledd yn gyfyngiad gweithredol ar yr unigolyn, sy'n deillio o nam corfforol, nam meddyliol neu nam ar y synhwyrau.

 

Amrywiaeth

Mae Amrywiaeth yn golygu cydnabod a pharchu'r gwahaniaeth rhwng ac o fewn grwpiau o bobl. Cydraddoldeb yw'r fframwaith sy'n galluogi pobl i fanteisio ar gyfleoedd, i gael mynediad, i gymryd rhan ac i gyfrannu mewn ffordd deg a chynhwysol.

 

Elitaeth

Y gred bod rhai pobl neu aelodau o grwpiau neu ddosbarthiadau penodol yn haeddu cael eu trin yn ffafriol oherwydd y credir eu bod yn uwchraddol, boed hynny oherwydd deallusrwydd, statws cymdeithasol neu adnoddau ariannol.

 

Rhyw

Y cyflwr cymdeithasol a/neu gorfforol o fod yn wryw neu'n fenyw.

 

Iechyd

Mae iechyd yn gyflwr o les corfforol, meddyliol a chymdeithasol.

 

Iaith

Mae gwahaniaethu ar sail iaith yn golygu trin rhywun yn wahanol oherwydd y modd y mae ef/hi yn siarad.

 

Iechyd Meddwl

Cyflwr y meddwl ac i ba raddau y mae'n rhydd rhag salwch, neu o fod mewn cyflwr da.

 

Hil

Grŵp gyda nodweddion corfforol tebyg, sy'n cael eu hystyried fel eu bod yn perthyn i'r un math, neu'r ffaith bod rhywun yn perthyn i grŵp o'r fath.

 

Crefydd

Credu mewn ac addoli Duw neu Dduwiau, neu fath o drefn lle mae rhywun yn credu neu'n addoli.

 

Rhywioldeb

Cael eich nodweddu a'ch gwahaniaethu drwy eich cyfeiriadedd rhywiol.