Ein prosiectau

Prosiect Cefnogi Mentrau Cymdeithasol

 

Mae Canolfan Cydweithredol Cymru yn cefnogi datblygiad a thwf entrepreneuriaeth gymdeithasol a mentrau cymdeithasol a chydweithredol yn Ardal Cydgyfeirio Cymru.

Bydd ein tîm o ymgynghorwyr arbenigol yn gweithio gyda grwpiau sy'n dymuno sefydlu menter gymdeithasol neu gydweithredol newydd. Byddwn hefyd yn gweithio gyda mentrau cymdeithasol sydd eisoes yn bodoli ac sy'n awyddus i dyfu a datblygu.

I gael mwy o wybodaeth ewch i'r adran Cymorth i fusnesau.

 

Consortia a Dilyniant Busnes


Mae'r prosiect hwn yn cael ei ariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Llywodraeth Cymru a bydd yn cael ei gyflwyno dros gyfnod o 3 blynedd. Mae dwy elfen i'r prosiect.

Elfen 1 - bydd Elfen 1 yn rhoi cymorth i fusnesau sy'n dymuno sefydlu consortia cydweithredol. Bydd hyn yn cynnwys ymdrin â materion trefniadaethol a materion yn ymwneud â llywodraethu, cynghori ar strwythur cyfreithiol, yn ogystal â chynllunio busnes ac ariannol ar gyfer y consortiwm.

Elfen 2 - bydd Elfen 2 yn cefnogi perchnogion busnes a gweithwyr yn ystod y broses o werthu'r busnes i'r gweithwyr. Bydd yn darparu cyngor cyfreithiol, gwasanaeth prisio busnes, cyngor ar strwythur, ymddiriedolaethau budd i weithwyr a chyngor ar Gynlluniau Cymhellion Cyfranddaliadau.

I gael mwy o wybodaeth ewch i'r adran Cymorth i fusnesau.

 

Cymunedau 2.0

 

Cynllun cynhwysiant digidol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yw Cymunedau 2.0. Fe'i sefydlwyd yn 2009.

Bwriad y cynllun yw gweithio'n bennaf yn Ardal Cydgyfeirio Cymru, gan chwalu'r rhwystrau sy'n atal pobl rhag ymwneud â thechnoleg. Bydd yn cefnogi mentrau newydd a rhai sy'n bodoli eisoes i ddefnyddio Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu i wella eu perfformiad, drwy gynorthwyo gyda hyfforddiant, mentora, cymorth technegol, cymorth busnes sy'n gysylltiedig â Thechnoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, ymchwil ac arferion gorau.

Cymunedau 2.0 sy'n cyflwyno'r ymgyrch Clicio.Cysylltu.Darganfod i helpu pobl Cymru i ddefnyddio technoleg ddigidol yn well.

I gael mwy o wybodaeth ewch i'r adran Help gyda thechnoleg.

 

Ymgynghori preifat

 

Mae Canolfan Cydweithredol Cymru hefyd yn gwneud gwaith ymgynghori preifat mewn meysydd megis cynllunio busnes, astudiaethau dichonoldeb, gwerthuso prosiectau, rheoli prosiectau, ysgrifennu ceisiadau am arian a chynigion ar gyfer prosiectau, yn ogystal â gwaith ymchwil penodol sy'n gysylltiedig â'r sector mentrau cymdeithasol.

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â'r Ganolfan.

 

Hyfforddiant

 

Mae Canolfan Cydweithredol Cymru yn cynnig rhaglen hyfforddiant gynhwysfawr ar gyfer sgiliau busnes, datblygu sefydliadol a sgiliau rhyngbersonol i bobl sy'n gweithio yn y Trydydd Sector. 

Mae ein gweithdai a'n dosbarthiadau ar gael i bawb. Mae gennym system bandiau pris sy'n amrywio gan ddibynnu p'un ai a ydych chi'n mynychu fel aelod o gorff ynteu fel unigolyn.

I gael mwy o wybodaeth a rhestr o'r gweithdai sydd ar gael ar hyn o bryd, ewch i'r adran Hyfforddiant.

 

Masnach Deg i fusnesau


Mae Canolfan Cydweithredol Cymru yn cynnig cymorth a chyngor ynghylch mabwysiadu polisi Masnach Deg ar gyfer eich busnes.

Rydym yn dangos beth yw'r manteision a'r rhesymau, ac yn helpu drwy ddarparu rhestr o gyflenwyr a mannau i gael gafael ar y cynnyrch ar gyfer busnesau yng Nghymru.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i Masnach Deg i fusnesau.