Google yn ymuno â Llywodraeth Cymru i helpu busnesau i ddeall sut mae defnyddio'r we

Bydd Google UK yn cynnal rhaglen 12 mis ledled Cymru a fydd yn darparu dros 1,000 o sesiynau ymgynghori a gweithdai e-sgiliau am ddim i helpu busnesau i sefydlu gwefan neu wella eu presenoldeb ar-lein.

Fel rhan o'r fenter bydd arbenigwyr yn mynd ar daith o amgylch y wlad yn “Juice Bar” Google, gan gynnig gwersi un i un am ddim ar sut mae hybu nifer yr ymweliadau â gwefannau a chynyddu busnes ar-lein. Cynhelir y digwyddiad cyntaf yng Nghaerdydd ar 6 Mawrth.