Gweithio gyda busnesau eraill
Busnesau'n cydweithio ac yn cyd-dyfu

Defnyddio consortia er mwyn galluogi eich busnes i dyfu - sefydlu consortia cydweithredol
Gall busnesau sy'n gweithio gyda'i gilydd dyfu gyda'i gilydd.
Gall datblygu consortia a phartneriaethau busnes er mwyn ennill gwaith newydd neu becynnu a gwerthu eich cynnyrch, eich helpu i wneud eich busnes yn fwy effeithiol a chynyddu eich trosiant.
Manteision consortia i bartneriaethau busnes
Gall cydweithio â mudiadau o'r un anian â chi greu cyfleoedd i bawb, gan gynnwys masnachwyr sy'n gweithredu ar eu liwt eu hunain, busnesau bach a chanolig a mentrau cymdeithasol.
Gall aelodau o gonsortia gael budd o'r canlynol
- Arbedion maint. Mwy o bŵer prynu.
-
Caffael. Y potensial i ennill contractau mwy a gwell yn y sector cyhoeddus ac yn y sector preifat
-
Marchnata effeithlon. Gwell cyfleoedd ar gyfer marchnata a phecynnu, a chyfleoedd gwerthu ehangach
-
Arbedion o ran costau. Gellir rhannu'r costau sy'n gysylltiedig â Thechnoleg Gwybodaeth, seilwaith a gwasanaethau cefnogi
Gweithio mewn consortia
Gall gweithio mewn consortia gryfhau eich ffrwd incwm a hyfywedd hirdymor eich menter. Gall consortia sydd wedi'i sefydlu'n dda gynnig am gontractau sector cyhoeddus, manteisio ar ostyngiadau, a phecynnu eu cynnyrch er mwyn cynnig gwerth ychwanegol i gleientiaid a chwsmeriaid.
Cyngor arbenigol ynghylch sefydlu consortiwm cydweithredol
Bydd ein tîm arbenigol yng Nghanolfan Cydweithredol Cymru yn helpu busnesau gyda'r canlynol:
- Cyngor ynghylch strwythurau cyfreithiol a sefydliadol a modelau busnes addas
- Cyngor ynghylch cynllunio ariannol a busnes
- Dod o hyd i gyllid a chael gafael ar arian grant pan fydd hynny'n briodol
- Cymorth gyda materion cyflogaeth
- Cymorth i ddatblygu strategaethau cydraddoldeb hanfodol a systemau rheoli amgylcheddol
Mae gan Ganolfan Cydweithredol Cymru bron i 30 mlynedd o brofiad yn cefnogi datblygiad mentrau cydweithredol a chonsortia busnes. Rydym wedi cefnogi datblygiadau mewn amrywiaeth o sectorau gan gynnwys y celfyddydau, cynhyrchu bwyd, ffermio a dadansoddi gwyddonol.
Ewch i dudalen astudiaethau achos Canolfan Cydweithredol Cymru i weld enghreifftiau o sut rydym wedi helpu cwmnïau eraill.
Gallwn gynnig cymorth i fusnesau sy'n rhan o Ardal Cydgyfeirio Cymru drwy gyfrwng y prosiect hwn:
Beth nesaf?
Darllen rhagor am fentrau marchnata ac eilaidd mentrau cydweithredol
Cysylltu â ni er mwyn cael mwy o wybodaeth
Mwy o wybodaeth
Gweithio fel consortia i helpu’ch busnes i dyfu