Hyrwyddwyr Amrywiaeth

Amrywiaeth yng Nghanolfan Cydweithredol Cymru:

 

Yn ystod 2007, penderfynwyd mynd ati i hyrwyddo Amrywiaeth a gwneud yn siŵr bod  staff Canolfan Cydweithredol Cymru yn gwybod am Amrywiaeth. Dewiswyd model ‘Hyrwyddwyr Amrywiaeth’ i hybu ac arwain y gwaith o hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o Amrywiaeth.

 

Model Amrywiaeth:

 

Gosododd yr Hyrwyddwyr Amrywiaeth yr amcanion canlynol:

  • Cyflwyno a diffinio’r hyn y mae Amrywiaeth yn ei olygu;
  • Datgelu beth yw’r rhwystrau i amrywiaeth yng Nghanolfan Cydweithredol Cymru;
  • Codi ymwybyddiaeth o bob agwedd ar Amrywiaeth;
  • Edrych ar y gyfraith ac amrywiaeth.

Credoau yng nghyswllt Amrywiaeth

 

Ceir sawl diffiniad o Amrywiaeth. Dyma’r un rydym ni wedi’i fabwysiadu yn y Ganolfan:

 

  • Nid cydraddoldeb mohono;
  • Mae cydraddoldeb yn ystyried mai'r unigolyn yw'r broblem;
  • Mae amrywiaeth yn ystyried pawb fel unigolion;
  • Mae amrywiaeth yn annog sefydliadau i addasu er mwyn cynnwys pawb;
  • Nid yw neb yn broblem.
Dulliau Hyrwyddwyr Amrywiaeth

 

Mae swyddogaeth yr Hyrwyddwyr yn datblygu’n barhaus, gan addasu i’r ymdeimlad o fewn y Ganolfan ac wrth i hyder y tîm yn y pwnc dyfu. Mae’r pwnc yn cael ei hyrwyddo drwy’r dulliau canlynol:

 

  • Cynhaliwyd sesiynau amrywiaeth yn nhri chyfarfod tîm diwethaf y staff, gan roi sylw i wahanol agweddau ar y pwnc;
  • Anfon negeseuon e-bost i hysbysu’r staff am ddigwyddiadau penodol;
  • Bod yn bwynt cyswllt i’r staff pan fydd ganddynt ymholiadau am Amrywiaeth.
Cynllun Gweithredu ynghylch Amrywiaeth

 

Bydd yr Hyrwyddwyr Amrywiaeth yn cyfarfod bob tri mis i drafod datblygiadau, camau gweithredu a syniadau newydd. Er mwyn mynd ati i hyrwyddo a datblygu Ymwybyddiaeth o Amrywiaeth yn barhaus o fewn y Ganolfan, lluniwyd cynllun gweithredu gyda’r bwriad o gyflawni’r canlynol:

 

  • Gweithio ar ddatblygu polisi ar gyfer y Ganolfan;
  • Creu Llyfrgell Amrywiaeth;
  • Dadansoddi Amrywiaeth yn y Ganolfan;
  • Slot rheolaidd mewn cyfarfodydd staff;
  • Cyfraniad rheolaidd i gylchgrawn y staff.

 

Sylwadau'r Hyrwyddwyr Amrywiaeth:

 

“Ein swyddogaeth fel Hyrwyddwyr Amrywiaeth yw sicrhau bod staff Canolfan Cydweithredol Cymru yn deall manteision arddel Amrywiaeth. Weithiau, byddwn yn gorfod herio a mynd i’r afael â phynciau er mwyn sicrhau bod staff yn ymwybodol o botensial gwahanol sefyllfaoedd.

 

“Drwy gynnal sesiynau’n rheolaidd, creu polisi priodol, yr adnodd hwn ar-lein a mynd ati i ddadansoddi Amrywiaeth yn y Ganolfan, rydyn ni’n cymryd camau i sicrhau bod anghenion ein cleientiaid yn cael eu diwallu gyda dealltwriaeth a pharch bob amser.”