Sector mentrau cydweithredol Cymru’n mynd i elwa o ymweliad gan arbenigwr byd-eang ar fentrau cydweithredol
Bydd John Restakis, Cyfarwyddwr Gweithredol Cymdeithas Mentrau Cydweithredol British Columbia yng Nghanada, yn ymweld â Chymru o ddydd Mawrth 26 Mehefin tan ddydd Gwener 29 Mehefin 2012.
Pwrpas ei ymweliad yw rhoi cymorth i’r broses o drawsnewid Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru. Mae John wedi gweithio ar brosiectau cydweithredol ledled y byd. Bydd yn rhannu ei wybodaeth helaeth am y sector mentrau cydweithredol mewn amryw gynadleddau a digwyddiadau yn ystod ei ymweliad pedwar diwrnod.
I gael mwy o wybodaeth, agorwch agenda ar gyfer ymweliad John Restakis