Mabwysiadu polisi

Dangoswch eich bod yn cefnogi Masnach Deg drwy fabwysiadu polisi Masnach Deg ar gyfer eich busnes.

 

Mae’n mynd gam ymhellach na chynnig ambell gynnyrch Masnach Deg – bydd mabwysiadu polisi yn eich helpu i gymell staff, i ddangos eich bod chi'n wahanol i'ch cystadleuwyr, ac i gadw eich cwsmeriaid yn hapus wrth gwrs.

 

Mae cadw cofnod o bolisïau’n ein helpu i fod yn ymwybodol o’r gefnogaeth a roddir i Fasnach Deg yn y byd busnes. Felly llenwch y ffurflen ganlynol a’i dychwelyd atom, ac fe wnawn ninnau anfon tystysgrif i’ch sefydliad.

 

POLISI MASNACH DEG

 

Rydym ni sy’n llofnodi isod yn ymrwymo i wneud Masnach Deg yn rhan o’n harferion busnes.
Rydym yn cadarnhau (os nad yw rhywbeth yn berthnasol, nodwch AMH):

 

  1. Ein bod wedi penderfynu y bydd y busnes hwn yn cefnogi, yn hyrwyddo ac yn defnyddio cynnyrch Masnach Deg.

  2. Ein bod wedi penodi Cydlynydd sy’n gyfrifol am ein polisi Masnach Deg.

  3. Bod staff yn deall ystyr Masnach Deg, yn sylweddoli ar y manteision i’r cynhyrchwyr ac yn ymwybodol o'r amrywiaeth o gynnyrch Masnach Deg sydd ar gael.

  4. Gall y staff gael lluniaeth Masnach Deg (ticiwch lle bo hynny’n briodol)
    • Mae te a choffi Masnach Deg ar gael yn y ceginau
    • Mae peiriannau gwerthu’n stocio diodydd a siocledi/bisgedi Masnach Deg
    • Mae’r caffi’n darparu te, coffi a byrbrydau Masnach Deg

  5. Caiff te a choffi Masnach Deg eu darparu mewn cyfarfodydd a'u cynnig i ymwelwyr.

  6. Wrth drefnu cyfarfodydd mewn canolfannau allanol, byddwn bob amser yn gofyn am luniaeth Masnach Deg.

  7. Mae ein deunyddiau cyfathrebu (deunyddiau hyrwyddo gan gynnwys gwefan, taflenni, cylchlythyrau, bwydlen, adroddiad blynyddol a chyhoeddiadau mewnol) yn cynnwys erthygl am Fasnach Deg.

  8. Byddwn yn dathlu ac yn hyrwyddo Masnach Deg o leiaf unwaith y flwyddyn. Er enghraifft yn ystod Pythefnos Masnach Deg, byddwn yn codi stondin neu’n arddangos posteri.

  9. Mae ein hamrywiaeth o gynnyrch yn cynnig dewis o gynnyrch Masnach Deg i gwsmeriaid (o leiaf 3 a the a choffi). Rhowch fanylion:

 

Mynd yr ail filltir dros Fasnach Deg (dewisol):

 

  • Cesglir adnoddau am Fasnach Deg a’u storio i unrhyw un sydd â diddordeb mewn clywed mwy.

  • Byddwn yn anfon cynrychiolydd i’n grŵp llywio Masnach Deg* lleol pan fydd modd.

  • Rydym yn chwilio am ffyrdd eraill o gyflwyno Masnach Deg i’n harferion busnes, neu o’i ymestyn, megis mwy o amrywiaeth o fwydydd neu wisgoedd. Rhowch fanylion:

 

Cyfarwyddwr y Sefydliad_____________ (printiwch eich enw) ___________________


Cydlynydd Masnach Deg _____________ (printiwch eich enw)___________________
Dyddiad:
Sefydliad:
Cyfeiriad busnes:
Ffôn:
E-bost:
Gwefan:
Disgrifiad o'r busnes:
Nifer y staff:

 

Nodiadau

  

  1. Ceisiwch roi cymaint o fanylion ag sy'n bosib, e.e. os ydych chi'n rhedeg Gwely a Brecwast neu westy, dywedwch a oes lluniaeth Masnach Deg yn yr ystafelloedd gwely.

  2. I gael help i ddod o hyd i gyflenwr, edrychwch ar Restr cyflenwyr Masnach Deg Canolfan Cydweithredol Cymru. Os oes angen rhagor o gymorth arnoch, cysylltwch â ni.

  3. *Bydd cynrychiolydd o’ch Grŵp Llywio Masnach Deg lleol yn cael copi o’ch polisi ac efallai’n eich gwahodd i gyfarfod y grŵp. Os na allwch fod yn bresennol yn ystod y flwyddyn, mae’n bosib y bydd y grŵp yn trefnu i ymweld â chi i wirio’ch polisi.

  4. Dyma rai ffyrdd o ddathlu Pythefnos Masnach Deg:
    • Ychwanegu nodyn at lofnod E-bost eich cwmni i godi ymwybyddiaeth
    • Stondin i werthu cynnyrch yn y cyntedd
    • Pryd Masnach deg ar y fwydlen (beth am ei gyfuno â chynnyrch lleol?)
    • Gweithiwr yn trefnu cwis neu’n rhoi sgwrs i ysgol neu grŵp lleol
      Bydd hyn yn help i chi gynnal eich brwdfrydedd dros Fasnach Deg ar ôl i chi ddatblygu eich polisi.

  5. Anfonwch gopi o’ch polisi at:
  6. Swyddog Marchnata Masnach Deg, Canolfan Cydweithredol Cymru, Heol y Tyllgoed, Caerdydd CF5 2XP neu anfonwch e-bost at fairtrade@walescooperative.org 

Cysylltwch ag Elizabeth Hudson os bydd angen help arnoch i roi cyhoeddusrwydd i'ch polisi newydd. Bydd rhoi cyhoeddusrwydd i’ch polisi yn help i chi godi’ch proffil ac yn ychwanegu gwerth at eich brand.

 

  • Gwnewch yn siŵr bod eich grŵp llywio Masnach Deg lleol yn gwybod amdanoch chi. Gallent sôn amdanoch yn y llawlyfr Masnach Deg lleol, neu gallech fod yn esiampl o gyflogwr a helpu'ch tref i gael statws Masnach Deg
  • Ysgrifennwch ddatganiad i’r wasg i ddweud wrth eich sector neu’r bobl leol am eich polisi (defnyddiwch ein henghraifft o ddatganiad i’r wasg am Bolisi Masnach Deg)
  • Dywedwch wrth bobl ar eich gwefan
  • Soniwch am eich polisi yn eich Adroddiad Blynyddol a dweud a oes gennych unrhyw ddogfennau cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol neu gyfrifo llinell waelod driphlyg

 

Datblygwyd y polisi hwn mewn cydweithrediad â Fforwm Masnach Deg Cymru. Cefnogir prosiect Cymorth Masnach Deg i Fusnesau Canolfan Cydweithredol Cymru a Fforwm Masnach Deg Cymru gan Lywodraeth Cynulliad Cymru drwy gyfrwng Fframwaith Cymru o blaid Affrica.

 

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, neu os hoffech chi gael mwy o wybodaeth neu gymorth i ddechrau busnes Masnach Deg, cysylltwch â Chanolfan Cydweithredol Cymru ar 029 2055 4955 neu fairtrade@walescooperative.org.

Mwy o wybodaeth

Llwytho copi o'r Polisi i lawr