Meithrin sgiliau busnes ar gyfer Mentrau Cymdeithasol
Gall Mentrau Cymdeithasol ac arnynt angen datblygu eu sgiliau meithrin consortia, llywodraethu a rheoli gael mynediad at gasgliad o gyrsiau hyfforddi newydd a gynigir gan Ganolfan Cydweithredol Cymru. Mae’r Ganolfan wedi lansio ei Llyfryn Dysgu a Datblygu Sgiliau newydd. Mae’r llyfryn yn manylu ar ystod eang o seminarau a gweithdai wedi’u hamserlennu a rhestr enfawr o gyfleoedd hyfforddi pwrpasol sydd ar gael i fentrau cymdeithasol ledled Cymru.
Mae rhaglen hyfforddiant eleni wedi’i bwriadu ar gyfer mentrau cymdeithasol sy’n dymuno tyfu a dwyn manteision economaidd i’w cymunedau. Mae testunau cyrsiau’n cynnwys ‘Adfywio Cymunedol trwy Fentrau Cydweithredol’, ‘Perchnogaeth gan y Gweithwyr’, ‘Datblygu Consortia Cydweithredol’, ‘Mentrau Cydweithredol y Gweithwyr’, ‘Llywodraethu’ a’r dosbarth meistr bythol boblogaidd, ‘Cyflwyniad i Fentrau Cymdeithasol’.
Mae’r Ganolfan hefyd yn cynnig gweithdai pwrpasol newydd mewn Cynllunio ar gyfer Olyniaeth, Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth, Cynllunio a Rheolaeth Ariannol, Rheoli Newid a hefyd Y Cyfryngau Cymdeithasol ar gyfer Busnes. Mae’r rhain yn ychwanegol at y rhaglen hirdymor o weithdai pwrpasol y gellir eu darparu’n uniongyrchol ar gyfer y fenter gymdeithasol.
Caiff y cyrsiau eu darparu fel rhan o Brosiect Cefnogi Mentrau Cymdeithasol Canolfan Cydweithredol Cymru a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd. Mae’r cyrsiau’n rhad ac am ddim i fentrau cymdeithasol cymwys.
Mae Canolfan Cydweithredol Cymru hefyd yn hwyluso cyfres o ddigwyddiadau rhwydweithio ledled Cymru sydd wedi’u bwriadu ar gyfer mentrau cymdeithasol. Mae’r digwyddiadau’n cynnig cymysgedd o weithdai a siaradwyr ar themâu sy’n ymwneud â busnes, amser i rwydweithio a’r cyfle i rannu gwybodaeth a ffurfio partneriaethau.
Meddai Rheolwr y Prosiect Cefnogi Mentrau Cymdeithasol, “Mae ein rhaglen newydd o gyrsiau dysgu a datblygu sgiliau’n cynnig ystod o cyfleoedd i fentrau cymdeithasol ddatblygu, cynnal a thyfu eu busnesau. Rydym yn cynnig dadansoddiad o anghenion busnes i sefydliadau sy’n ein galluogi i ddiwallu eu hanghenion hyfforddi’n uniongyrchol. Rydym hefyd yn cynnig amserlen wedi’i threfnu o weithdai a seminarau addysgiadol sydd wedi profi’n boblogaidd iawn mewn blynyddoedd a fu ac roedd y rhai a gynhaliwyd y llynedd i gyd yn llawn”.
Gellir lawrlwytho Llyfryn Dysgu a Datblygu Sgiliau 2012/13 o www.walescooperative.org/training. Gellir archebu lleoedd trwy fynd at y wefan neu drwy ffonio 0300 111 5050.