Cymorth ar gyfer mentrau cymdeithasol a chydweithredol

Bydd ein tîm o swyddogion datblygu yn gweithio gyda grwpiau a fyddai'n hoffi sefydlu menter gymdeithasol neu gydweithredol newydd.
Byddwn hefyd yn gweithio gyda mentrau cymdeithasol a chydweithredol sydd eisoes yn bodoli ac sy'n awyddus i dyfu a datblygu.
Mae'r cymorth hwn am ddim – mae'n cael ei ariannu gan raglenni Cydgyfeirio'r Undeb Ewropeaidd gydag arian cyfatebol gan Lywodraeth Cymru.
Sut mae'n gweithio?
Bydd pob grŵp yn gweithio gyda swyddog datblygu a fydd yn llunio cynllun gweithredu ar eu cyfer.
Yna, bydd y cynllun hwn yn cael ei roi ar waith gan amrywiol ymgynghorwyr sy'n arbenigo mewn meysydd megis cynllunio busnes, strwythurau cyfreithiol, personél, cyllid a marchnata.
Darperir cymorth hefyd drwy gyfrwng hyfforddiant, mentora, dosbarthiadau meistr a rhwydweithio.
Rydym yn gweithio gydag unrhyw fentrau cymdeithasol, busnesau cymunedol, mentrau cymunedol, busnesau cymdeithasol, ymddiriedolaethau tir cymunedol, mentrau cydweithredol a chwmnïau cydfuddiannol. Rydym wedi cynnwys hanesion llwyddiannus ambell un o'r mentrau rydym ni wedi eu helpu hyd yn hyn.
Oes gennych chi gwestiynau ynglŷn â hyn? Cysylltwch â ni i weld a allwn ni helpu.
Eisiau gwybod mwy?
Cysylltwch â swyddog datblygu yn eich ardal chi
Mwy o wybodaeth:
Pamffled Prosiect Cefnogi Mentrau Cymdeithasol
Cefnogaeth i fusnesau gan Lywodraeth Cymru