Newyddion ac adnoddau menter gydweithredol + cymdeithasol

Cyllid a gwybodaeth i fusnesau bach – Canllaw manwl i'r hyn sydd ar gael ar gyfer Mentrau BaCh
Nod y canllaw hwn yw amlinellu a chyfeirio at ffynonellau cefnogaeth posib sydd ar gael i fusnesau presennol a newydd yng Nghymru

Twf Swyddi Cymru – Allwch chi gynnig cyflogaeth noddedig am chwe mis i berson ifanc 16-24 oed?
Fy nealltwriaeth i yw y dylai'r cyflogwr geisio cynnig swydd amser llawn i'r person ar ôl y chwe mis, ond dyw'r neges honno ddim yn amlwg o'r wybodaeth ar y wefan.
 
Sylwer bod LlC yn dweud eu bod yn creu ffurf derfynol ar y model cyflwyno ar gyfer y sector gwirfoddol. Bydd hyn yn cael ei reoli gan y WCVA, a fydd yn cyfuno eu cynllun ILM tri mis â rhaglen chwe mis Twf Swyddi Cymru. Bydd yr ILM yn sicrhau bod y person ifanc yn barod i weithio cyn y contract Twf Swyddi Cymru.

Menter gymdeithasol Gymreig 4CG yn derbyn sylw yn y Western Mail
Mae tref yng Nghymru, a welodd ei chynhyrchwyr lleol yn sefydlu cwmni cydweithredol i'w hatal rhag cael ei llethu gan siopau cadwyn ac adwerthwyr mawr, wedi canfod bod dros £3 miliwn yr wythnos yn cael ei sugno allan o'i siopau a'i busnesau annibynnol.

Fifteen Cernyw – sefydlwyd y fenter gymdeithasol chwe blynedd yn ôl, heb fawr mwy na sêl bendith Jamie Oliver
Agorodd Fifteen Cernyw yn 2006 yn dilyn ymgyrch benderfynol gan y trigolion, y cyngor lleol ac Asiantaeth Datblygu Rhanbarthol y De-orllewin (SWRDA), a lwyddodd i ddarbwyllo Oliver y gellid efelychu llwyddiant y model menter gymdeithasol a ddatblygodd gyda Fifteen Llundain yng Nghernyw.
 
Mae'n gwneud arian: trosiant o £3 miliwn a mwy y flwyddyn, ac elw sydd dros £300,000 yn gyson. Ar ben hynny, yn un o ardaloedd tlotaf y wlad (dim ond 62% o'r cyfartaledd cenedlaethol yw CMC Cernyw), mae Fifteen yn talu 70 o gyflogau amser llawn, ac yn gwario £1 filiwn y flwyddyn gyda chyflenwyr lleol; mae un ohonynt, Rob Hocking, yn dweud mai bwydo ei deulu yn unig y byddai ei lain o dir ar un adeg, ond nawr, gan ei fod yn tyfu tomatos, perlysiau a ffrwythau meddal i Fifteen, mae'n darparu tri incwm parchus.