Gweinidog yn lansio cymorth ar-lein i helpu tenantiaid sy’n agored i niwed i aros yn eu cartrefi
Mae’r Gweinidog dros Dai, Huw Lewis AC, wedi lansio pecyn cymorth o adnoddau ar-lein, a ddatblygwyd gan Ganolfan Cydweithredol Cymru. Bydd y pecyn yn helpu awdurdodau lleol, landlordiaid preifat ac undebau credyd i gydweithio i helpu i gefnogi tenantiaid sy’n agored i niwed ac mewn perygl o ddigartrefedd o ganlyniad i’r diwygiadau arfaethedig i fudd-daliadau lles.
Bydd y newidiadau i’r modd y mae budd-dal tai yn cael ei dalu dan reolau’r Credyd Cynhwysol yn rhoi llawer mwy o bwyslais ar yr hawlydd i gyllidebu ei arian yn effeithiol gan flaenoriaethu ei ddyledion yn briodol. Dadleuir nad oes gan rai deiliaid tai sy’n agored i niwed y gallu i wneud hyn, sy’n golygu eu bod mewn mwy o berygl o fynd i ôl-ddyledion rhent, cael eu troi allan o’u cartrefi a digartrefedd posibl.
Mae prosiect Taclo Digartrefedd Trwy Gynhwysiant Ariannol (THFI) yn hyrwyddo’r defnydd o undebau credyd i gefnogi deiliaid tai sy’n agored i niwed i gyllidebu’n effeithiol, trwy glustnodi budd-dal tai ar gyfer talu rhent. Lansiwyd y pecyn cymorth ddydd Llun 16 Gorffennaf yn y Senedd, Bae Caerdydd. Disgwylir i’r pecyn fod o gymorth i awdurdodau lleol ac undebau credyd ddatblygu modelau lleol i gefnogi tenantiaid sy’n agored i niwed i gynnal eu tenantiaethau, a hyrwyddo’r cynllun i landlordiaid preifat a fydd yn gallu gweithredu i gynorthwyo’u tenantiaid.
Wrth iddo lansio'r pecyn cymorth newydd, meddai'r Gweinidog: "Gwaetha'r modd, yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni a chydag effaith diwygio'r gyfundrefn lles yn debygol o fod yn llym yng Nghymru, mae mynd i'r afael â digartrefedd yn her barhaus. Mae sicrhau bod gan bobl fynediad at yr wybodaeth a'r dewisiadau gorau ar gyfer rheoli eu rhent yn allweddol bwysig i atal digartrefedd felly rwyf wrth fy modd y bydd y pecyn cymorth hwn yn helpu sefydliadau i gydweithio i helpu pobl mewn angen.”
Cefnogir prosiect THFI gan nifer o sefydliadau allweddol sy’n ymwneud â’r agendau tai yng Nghymru, megis Shelter Cymru, y Sefydliad Tai Siartredig, Cymorth Cymru a Chymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid.
Dywedodd Derek Walker, Prif Weithredwr Canolfan Cydweithredol Cymru: “Mae’r pecyn cymorth hwn o gymorth i sefydliadau gydweithio a chefnogi’r tenantiaid sydd fwyaf agored i niwed a fydd yn teimlo effaith diwygio’r budd-daliadau lles. Nid yw’r cysyniad sy’n cael ei hyrwyddo yn un newydd; bu’n effeithiol iawn yn rhannau eraill o’r DU, ac rydym yn awyddus i feithrin ymhellach yr arfer gorau hwn sydd yn bodoli eisoes a hyrwyddo’r cynllun mor eang â phosibl ar draws Cymru er mwyn helpu i gynnal tenantiaethau.”
Nod prosiect THFI yw annog oddeutu 7,000 o denantiaid sy’n agored i niwed yn y sector rhentu preifat i agor cyfrifon rhent undebau credyd neu gyfrifon cyllidebu erbyn 2015.