Polisi archebu a chanslo

  • Wedi i chi gael cadarnhad o’ch lle yn y gweithdy, bydd angen talu'r ffi lawn, oni bai y cawn wybod gennych eich bod yn dymuno canslo.

  • Os byddwch yn canslo bum niwrnod gwaith neu ragor cyn y gweithdy, byddwn yn anfon ad-daliad llawn atoch, oni bai eich bod am roi eich lle i rywun arall yn eich mudiad.

  • Os byddwch yn canslo lai na phum niwrnod gwaith cyn y gweithdy, bydd angen talu'r ffi lawn, oni bai eich bod yn dymuno rhoi eich lle i rywun arall yn eich mudiad.

  • Ni roddir ad-daliad am beidio mynychu’r gweithdy.

  • Os bydd Canolfan Cydweithredol Cymru yn canslo digwyddiad, byddwn yn ceisio rhoi gwybod i’r holl gyfranogwyr bum niwrnod gwaith cyn dyddiad y gweithdy.

  • Caiff holl ffioedd y gweithdy eu had-dalu’n llawn, ond ni allwn ad-dalu costau eraill megis teithio, llety ac ati.

  • Os bydd Canolfan Cydweithredol Cymru yn newid dyddiad y digwyddiad a’r dyddiadau newydd ddim yn gyfleus, gall y rheini sydd wedi archebu lle yn y gweithdy wneud cais am ad-daliad llawn.

  • Gallwch ganslo drwy anfon e-bost, ffacs, llythyr neu drwy ffonio. Codir ffioedd canslo hefyd yng nghyswllt hyfforddiant sydd wedi’i drefnu’n arbennig ar eich cyfer chi.

  • Edrychwch ar ein Polisi Preifatrwydd er mwyn cael gwybodaeth ynghylch Diogelu Data.