Pryniant gan weithwyr

DLT Training

  

Cyfleoedd i weithwyr fod yn berchen ar eu busnes er mwyn sicrhau dilyniant busnes

 
Mae angen i bob perchennog busnes bwyso a mesur dyfodol ei gwmni. Boed yn fusnes teulu, yn fusnes bach neu ganolig neu'n sefydliad gweithgynhyrchu mawr, mae cynllunio ar gyfer dilyniant busnes yn hanfodol er mwyn sicrhau parhad busnesau a diogelu bywoliaeth y gweithwyr. Mae'n hollbwysig cynllunio strategaeth dilyniant busnes sy'n gweithio i bawb sy'n gysylltiedig.
 
Cynllunio ar gyfer dilyniant a pharhad busnes
 
Os bydd busnes yn newid dwylo, yn aml iawn, y bobl orau i gymryd yr awenau yw'r bobl hynny sydd â llawer iawn o ddiddordeb yn ei ddyfodol – y gweithwyr. Gallai cynllunio strategaeth gadael effeithiol alluogi perchennog y busnes i adael y cwmni dros gyfnod.

Rwyf am werthu fy musnes

Fel perchennog, bydd arnoch eisiau sicrhau eich bod yn cael y gwerth mwyaf am eich busnes pan fyddwch yn gadael. Efallai y byddwch hefyd am osgoi sefyllfa lle mae'r cwmni'n gorfod dod i ben, neu lle mae busnes arall yn ei brynu ar delerau llai ffafriol, yn ogystal â diswyddiadau. Os bydd y gweithwyr yn dod yn berchen ar y busnes
  • byddwch yn siŵr o gael pris teg am eich busnes
  • gallwch osgoi proses werthu hirfaith 
  • bydd eich busnes yn sicr yn aros mewn dwylo diogel
  • bydd cysylltiadau â chwsmeriaid a chyflenwyr yn aros yn ddiogel
  • gellir sicrhau y bydd y gweithwyr yn cael cadw eu swyddi

Gall trosglwyddo'r busnes i fenter gydweithredol gweithwyr wella'r rhagolygon ar gyfer twf busnes, a'ch galluogi chithau i weld eich busnes yn parhau i ffynnu yn y gymuned.

Prynu'r busnes gan eich rheolwr – manteision pryniant gan weithwyr

A allai menter gydweithredol gweithwyr fod yn addas ar eich cyfer chi? Byddai menter gydweithredol o'r fath yn golygu mai chi fyddai'n berchen ar y busnes ac yn ei reoli, a byddai hyn hefyd yn diogelu swyddi. Mae mentrau cydweithredol gweithwyr yn fusnesau sy'n eiddo i'r holl bobl sy'n gweithio yn y busnes ac yn cael eu rheoli ganddynt.
Fel gweithwyr-berchnogion:
  • rydych chi eisoes yn deall y cynnyrch a'r gwasanaeth a gynigir gan y cwmni
  • rydych chi eisoes yn adnabod eich cwsmeriaid a'ch cyflenwyr ac wedi meithrin cysylltiadau cadarn â nhw
  • mae'r busnes yn bwysig i chi ac rydych yn teimlo eich bod yn berchen arno
  • mae gennych gyfle i ddiogelu a datblygu eich swyddi eich hunain
  • gallwch gyflogi pobl leol a sicrhau bod gwreiddiau'r busnes yn aros yn ddwfn yn y gymuned
 
Cyngor arbenigol ynghylch dilyniant busnes

Bydd ein tîm arbenigol yng Nghanolfan Cydweithredol Cymru yn helpu perchnogion busnes a gweithwyr 
  • i bwyso a mesur pa mor ymarferol fyddai pryniant gan weithwyr
  • i gynghori ynghylch goblygiadau trosglwyddo'r busnes i'r gweithwyr
  • i sicrhau busnes a chael cyngor ynghylch cynllunio ariannol
  • i godi arian er mwyn gwneud gwerthiant yn bosib
  • i gynghori ynghylch strwythurau cyfreithiol a modelau busnes addas   
Mae gan Ganolfan Cydweithredol Cymru bron i 30 mlynedd o brofiad yn cynorthwyo busnesau i gynllunio ar gyfer dilyniant busnes ac yn datblygu mentrau cydweithredol gweithwyr. Rydym wedi cefnogi datblygiadau mewn ystod eang o sectorau gan gynnwys mwyngloddio, gweithgynhyrchu, cyhoeddi a hyfforddi.
Ewch i dudalen cynlluniau llwyddiannus Canolfan Cydweithredol Cymru i weld enghreifftiau o sut rydym wedi helpu cwmnïau eraill.

Mae croeso i chi lenwi'r ffurflen ymholiadau isod os ydych am gael rhagor o wybodaeth neu os hoffech i un o'n Swyddogion Datblygu gysylltu â chi i drafod hyn ymhellach.
Gallwn gynnig cymorth i fusnesau sy'n rhan o Ardal Cydgyfeirio Cymru drwy gyfrwng y prosiect hwn:
 
Beth nesaf?

 
Mwy o wybodaeth

 
Aber Instruments
Mae’r Sefydlydd, Barry Wise, yn esbonio cynllun ar gyfer olyniaeth hirdymor Aber Instruments a sut y cafodd y cwmni gymorth gan Ganolfan Cydweithredol Cymru i roi cynllun perchenogaeth cyflogeion ar waith.
Gwyliwch y fideo isod neu gwyliwch y fideo ar YouTube (gwefan allanol, trawsgrifiad ar gael).