Rhwydwaith Mentrau Cymdeithasol Cymru - De-ddwyrain Cymru
Rhwydwaith Mentrau Cymdeithasol Cymru - De-ddwyrain Cymru
Cynhaliwyd cyfarfod byr awr o hyd cyn seremoni Gwobrau Mentrau Cymdeithasol Cymru yng Nghanolfan y Mileniwm. Y cadeirydd oedd Ellen Petts, Rheolwr Gyfarwyddwr menter gymdeithasol Cleanstream Carpets (dolen allanol).
Arweinir y rhwydweithiau gan uwch reolwyr mentrau cymdeithasol sy'n cynhyrchu o leiaf 50% o'u hincwm o fasnachu. Mae'r digwyddiadau'n rhoi cyfle i rannu gwybodaeth a phrofiadau. Dyma rai o'r prif bynciau trafod a'r pethau y cytunodd y Rhwydwaith y dylid gweithredu arnynt:
- Mae angen edrych yn eang ar yr angen am sgiliau ar lefel y bwrdd er mwyn rheoli busnesau masnachol llwyddiannus (mae elw'n beth da)
- Mireinio sgiliau tendro ar gyfer cyflwyno bidiau ac ennill contractau sylweddol drwy gydweithio a ffurfio consortia
- Rhyng-fasnachu er mwyn hybu gwerthiant – mae Cyfeiriadur Cynhwysfawr Cynghrair Mentrau Cymdeithasol Cymru o Fentrau Cymdeithasol Cymru, a fydd ar gael yn fuan, yn bendant yn ateb i hyn.