Rhwydwaith Mentrau Cymdeithasol Cymru

Y rhwydwaith ar gyfer mentrau cymdeithasol sefydledig yng Nghymru

Sefydlwyd Rhwydweithiau Mentrau Cymdeithasol Cymru yn 2010 er mwyn i fentrau cymdeithasol gael cyfleoedd i rwydweithio. Cynhelir digwyddiadau bob pedwar mis yng ngogledd, de-ddwyrain a de-orllewin Cymru, ac mae rhwydwaith ar-lein yn LinkedIn
 
Arweinir y rhwydweithiau gan uwch-reolwyr mentrau cymdeithasol sy'n cynhyrchu o leiaf 50% o'u hincwm trwy fasnachu. Mae'r digwyddiadau'n gyfleoedd i rannu gwybodaeth, profiad, i ryng-fasnachu ac i feithrin partneriaethau effeithiol.

Y nod yw helpu i wella busnesau unigol a chynyddu gwerth y sector yn ei grynswth.

Mae'r digwyddiadau yn cynnig cyfuniad o'r canlynol:

•    Gweithdai ar themâu busnes
•    Siaradwyr ysbrydoledig
•    Sesiynau rhwydweithio wedi eu hwyluso
•    Cyfleoedd i gydweithio a datblygu consortiwm
•    Mynediad i wybodaeth, adnoddau ac offer ar gyfer busnes.
 
Cynllun mentora cymheiriaid
Un elfen o Rwydweithiau Mentrau Cymdeithasol Cymru yw'r cynllun mentora cymheiriaid. Y gynulleidfa darged yw rheolwyr mentrau cymdeithasol, fel eu bod yn cynorthwyo ei gilydd trwy gyfnewid sgiliau a gwybodaeth, a bod hynny'n arwain at gryfhau sgil a gallu unigolion, a'u hyder i arwain a sbarduno twf busnes.

Diddordeb mewn ymuno? Cysylltwch â ni os hoffech fod yn rhan o Rwydweithiau Mentrau Cymdeithasol Cymru, neu os oes gennych ymholiad.