Mentrau Cydweithredol yng Ngogledd Cymru’n ennill Gwobrau Mentrau Cymdeithasol Cymru 2012

 Mae tair menter gymdeithasol yng Ngogledd Cymru wedi ennill categorïau yng Ngwobrau Mentrau Cymdeithasol Cymru a gynhaliwyd heddiw (dydd Gwener 19 Hydref) yn Sinema a Chanolfan Gelfyddydau Scala ym Mhrestatyn. Cafodd y gwobrau eu noddi gan y gofrestrfa Rhyngrwyd Nominet.

 

Dyma restr lawn o’r enillwyr:

Arweinydd Menter Gymdeithasol y Flwyddyn - Kelly Davies o Vi-ability Kelly Davies of Vi-ability winner of the Leader of the Year Category with Wales Co-operative Centre Chief Executive - Derek Walker

Mae Kelly Davies wedi bod yn Rheolwr Gyfarwyddwr Vi-ability am bron i dair blynedd. MaeKelly wedi llwyddo i sefydlu Vi-ability fel un o’r rhaglenni mwyaf blaenllaw yn y diwydiant chwaraeon yn y DU ac Ewrop ar gyfer datblygiad personol/cyflogaeth i gyfranogwyr sy’n ddifreintiedig yn gymdeithasol. Mae’n cyflawni deilliannau sy’n gyson yn gadarnhaol mewn perthynas ag ymgysylltu, cadw a dilyniant.

 

Menter Gymdeithasol Newydd y Flwyddyn – Undeb Credyd Gogledd CymruWinner of the Start up of the Year Award - North Wales Credit Union with Wales Co-operative Centre Chief Executive - Derek Walker

Mae Undeb Credyd Gogledd Cymru (NWCU) yn fenter gydweithredol ariannol sy’n darparu ystodeang o wasanaethau ariannol moesegol ar hyd a lled Gogledd Cymru. Yr undeb credyd hwn, a reoleiddir gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol, yw’r cwmni cydfuddiannol ariannol pedwerydd mwyaf yng Nghymru. Fe’i ffurfiwyd ym mis Ionawr 2011 trwy uno pum undeb credyd. Ers hynny mae’n cael ei ystyried yn fodel o ragoriaeth gan undebau credyd a gwneuthurwyr polisi o bob rhan o’r DU.

 

Cefnogwr Menter Gymdeithasol y Flwyddyn - Partneriaeth Cymunedau yn Gyntaf Sant IlltudWinner of the Supporter of the Year Award - St. Illtyds Community First Partnership with Derek Walker and Awards Host and Wakes Co-operative Centre Director of Operations - Nia Wright Morgan

Mae Cymunedau yn Gyntaf Sant Illtud yn rhan o ymgyrch gwrthdlodi gan Lywodraeth Cymru sydd wedi bod ar waith ers 10 mlynedd. Mae’r tîm yn cynnwys 5 unigolyn sy’n ymroddedig i gefnogi ac annog mentrau sy’n gwneud newidiadau cadarnhaol i’r economi gymdeithasol. Mae’n gweithio yn Sefydliad Llanhiledd gan roi cymorth i gymunedau o Frynithel, Swffryd, Aberbeeg a Llanhiledd. Mae Cymunedau yn Gyntaf Sant Illtud wedi bod yn gyfrifol am gychwyn a rhoi cymorth i 3 menter gymdeithasol a chreu 16 o swyddi mewn ardal yng Nghymru sy’n amddifadus yn gymdeithasol.

 

Cefnogwr Menter Gymdeithasol y Flwyddyn – Canmoliaeth Arbennig

Cafodd Adran Adnewyddu ac Addasu Tai Dinas a Sir Abertawe ganmoliaeth arbennig fel enghraifft o Awdurdod Lleol sydd wedi gwneud cyfraniad pwysig tuag at ategu datblygiad menter gymdeithasol. Mae Dinas a Sir Abertawe wedi rhoi cymorth ac wedi bod ar gael i fyfyrio ar, cynghori ynghylch a llywio newidiadau i sefydliadau eraill sydd wedi arwain at ddatblygu mentrau cymdeithasol megis Gwasanaethau Gofal a Thrwsio Abertawe.

 

Menter Gymdeithasol y Flwyddyn – Cwmni Cydweithredol Crest

Mae Cwmni Cydweithredol Crest yn gweithredu nifer o fentrau ailgylchu gan gynnwys prosiect tlodiSharon Jones of Crest Co-operative - winner of the Social Enteprise of the Year award with Nia Wright Morgan bwyd sy’n dosbarthu bwyd y mae ei ddyddiad ‘gorau cyn’ yn dal yn ddilys gan weithgynhyrchwyr bwyd i bobl ddigartref ac agored i niwed ledled Gogledd Cymru; gweithrediad ailgylchu tecstilau ledled ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy; ac yn olaf mae Cwmni Cydweithredol Crest yn gweithio gyda chymdeithasau tai Gogledd Cymru i glirio eiddo gwag ac achub ceginau/ystafelloedd ymolchi rhag cael eu hanfon i safleoedd tirlenwi. Mae gwaith Cwmni Cydweithredol Crest yn canolbwyntio’n bennaf ar ddibenion cymdeithasol ac amgylcheddol, gan weithio i hybu cynhwysiant cymdeithasol ac ar yr un pryd, gweithio i achub deunyddiau a bwyd rhag cael eu hanfon i safleoedd tirlenwi.

 

Meddai Prif Weithredwr Canolfan Cydweithredol Cymru, Derek Walker, “Roedd ansawdd yr enwebiadau eleni’n dangos nid dim ond ehangder a hyblygrwydd y sector ond pwysigrwydd y sector i gymunedau ledled Cymru. Roedd yn dasg anodd i’r beirniaid eleni ddewis rhwng nifer o bobl ymroddgar iawn a nifer o enwebeion teilwng tu hwnt. Mae’r enillwyr a ddewiswyd yn dangos ymrwymiad nodedig i’w maes arbenigedd a lefel o wasanaeth sy’n neilltuol. Rydym yn llongyfarch Cwmni Cydweithredol Crest, Partneriaeth Cymunedau yn Gyntaf Sant Illtud, Undeb Credyd Gogledd Cymru a Kelly Davies a’r holl fentrau cymdeithasol ardderchog eraill a gyrhaeddodd y rhestr fer.”

 

Noddwyd Gwobrau Mentrau Cymdeithasol Cymru 2012 gan y gofrestrfa Rhyngrwyd ddielw Nominet. Mae Nominet yn rhedeg un o’r cofrestrfeydd Rhyngrwyd mwyaf yn y byd ac yn rheoli dros ddeng miliwn o enwau parth. Hwy sydd wedi cael y cyfrifoldeb am reoli’r parth Rhyngrwyd .uk mewn modd sefydlog a diogel ac yn ddiweddar fe gyflwynodd y cwmni geisiadau ar gyfer parthau lefel uchaf .cymru a .wales. I gael mwy o wybodaeth ewch at y wefan www.nominet.org.uk

Social Enteprise Awards Wales 2012Award sponsors - Nominet