Cyhoeddi’r Rhestr Fer ar gyfer Gwobrau Mentrau Cymdeithasol Cymru
Yr wythnos hon fe gyhoeddwyd y rhestr fer ar gyfer cystadleuaeth flynyddol Gwobrau Mentrau Cymdeithasol Cymru. Mae’r enwebeion ar y rhestr fer yn cynnwys undeb credyd, menter gymdeithasol ym maes rheoli cyfleusterau, adnodd hygyrchedd digidol, menter gydweithredol ym maes ailgylchu a menter gymdeithasol ym maes ynni adnewyddadwy cymunedol.
Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn cinio gala ym Mhrestatyn ar ddydd Gwener 19 Hydref.
Mae Gwobrau Mentrau Cymdeithasol Cymru’n gystadleuaeth genedlaethol sydd wedi’i bwriadu i ddathlu’r gwaith rhyfeddol a wneir gan fentrau cymdeithasol yng Nghymru a helpu i godi proffil y sector yng Nghymru a thu hwnt. Mae pedwar categori yng Ngwobrau Mentrau Cymdeithasol Cymru ac mae tri enwebai wedi cael eu dewis i fod ar y rhestr fer ym mhob categori.
Arweinydd Menter Gymdeithasol y Flwyddyn
- Cam Nicholl o’r Ganolfan Hygyrchedd Digidol (Castell-nedd)
- Kelly Davies o Viability (Conwy)
- Maggie Berry o Wasanaethau Gofal a Thrwsio Abertawe
Menter Gymdeithasol Newydd y Flwyddyn
- Undeb Credyd Gogledd Cymru
- Gwasanaethau Gofal a Thrwsio Abertawe
- TGV Hydro (Crughywel)
Menter Gymdeithasol y Flwyddyn
- Galeri Caernarfon Cyf
- Cwmni Cydweithredol Crest (Cyffordd Llandudno)
- Y Ganolfan Hygyrchedd Digidol (Castell-nedd)
Cefnogwr Menter Gymdeithasol y Flwyddyn
- Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo (Pontypridd)
- Partneriaeth Cymunedau yn Gyntaf Sant Illtud (Abertyleri)
- Dinas a Sir Abertawe
Estynnodd Prif Weithredwr Canolfan Cydweithredol Cymru, Derek Walker longyfarchiadau i bob un o’r enwebeion am eu llwyddiant. “Yn fwy nag erioed o’r blaen, mae gwobrau mentrau cymdeithasol eleni’n dangos ehangder a hyblygrwydd y sector. Mae wedi bod yn hyfryd gweld cymaint o wahanol fathau o fentrau cymdeithasol yn cael eu henwebu. Gyda mentrau cymdeithasol yn gweithio ym meysydd cynhwysiant ariannol, gofal a chymorth, ailgylchu, ynni adnewyddadwy, cymunedau a’r celfyddydau, mae’r gwobrau hyn yn dangos yn glir yr effaith y mae mentrau cymdeithasol yn ei chael ar bob agwedd ar ein bywydau yng Nghymru.”
Mae’r cwmni cofrestru enwau parth dielw Nominet yn noddi Gwobrau Mentrau Cymdeithasol Cymru 2012. Mae Nominet yn rhedeg un o’r cofrestrfeydd Rhyngrwyd mwyaf yn y byd ac yn rheoli dros ddeng miliwn o enwau parth. Hwy sydd wedi cael y cyfrifoldeb am reoli’r parth Rhyngrwyd .uk mewn modd sefydlog a diogel ac yn ddiweddar fe gyflwynodd y cwmni geisiadau ar gyfer parthau lefel uchaf .cymru a .wales. I gael mwy o wybodaeth ewch at y wefan www.nominet.org.uk