Menter gymdeithasol GLL yw cwmni rheoli newydd canolfannau hamdden Pen-y-bont ar Ogwr

Ac mae mwy o newyddion am fenter gymdeithasol GLL, ond yn nes adre y tro yma...
Mae rheolaeth canolfannau hamdden Pen-y-bont ar Ogwr yn symud i bartneriaeth menter gymdeithasol. Bydd wyth canolfan y sir yn trosglwyddo i GLL (Greenwich Leisure Limited), fydd â chontract y cwmni rheoli, tra bod Halo wedi ei benodi yn bartner gweithredu lleol. Mae'r ddau fel ei gilydd yn fentrau cymdeithasol nid-er-elw.

Mae GLL yn gyfrifol am fwy na 100 o ganolfannau yn Llundain a de-ddwyrain Lloegr. Mae Halo yn gofalu am 10 canolfan ar ran cynghorau Siroedd Henffordd ac Amwythig. Gobaith y cyngor yw y bydd y contract terfynol yn barod i gychwyn ar 1 Ebrill.