Digwyddiad hydref Rhwydwaith Menter Gymdeithasol y Gogledd
Ymweliad rhwydweithio â Co-Options, Menter Gymdeithasol Gymreig y Flwyddyn 2011
Dydd Iau 20 Hydref
9.45am i gychwyn yn brydlon am 10am
NEILLTUWCH EICH LLE NAWR
Ffurfiwyd Cwmni Cydweithredol Cymunedol Co-Options yn 1989 i ddatblygu cysylltiad rhwng cyflogaeth, busnesau a phobl ag anabledd dysgu. Mae bellach yn gyfrifol am ddeg menter wahanol, yn cynnwys gwasanaethau hamdden, manwerthu a thrwsio beiciau, ailgylchu, cynhyrchu bioddisl, garddwriaeth ac arlwyo.
Mae 20 o lefydd ar gael i ymweld â'r busnesau sy'n rhan o gwmni arobryn Co-Options, a'r cyntaf i'r felin fydd hi o ran eu neilltuo. Os hoffech fod yn rhan o'r ymweliad, cysylltwch â Ieuan Nash yng Nghanolfan Gydweithredol Cymru.
Bydd y digwyddiad yn cychwyn yn swyddfa Co-Options yn Rhodfa Victoria, Prestatyn, ac oddi yno bydd y rhwydweithwyr yn mynd ar daith o amgylch ei weithrediadau busnes yn yr ardal leol mewn bws mini. Dilynir hynny gan ginio ysgafn am 1pm yn ôl ym mhencadlys y fenter gymdeithasol.