Mentrau cymdeithasol a chydweithredol
Rydym yn cynnig cymorth a chyngor busnes rhad ac am ddim i fentrau cymdeithasol a chydweithredol yng Nghymru.
- Hoffech chi sefydlu menter neu fusnes sy'n dwyn budd i'r gymuned neu'r amgylchedd?
- Ydych chi yng ngofal menter gymdeithasol yn barod ond yn awyddus i gael mwy o arweiniad?
- Ydych chi'n rhan o gynllun pryniant gan weithwyr i ffurfio menter gweithwyr gydweithredol neu fusnes sy'n eiddo i'r gweithwyr?
- Oes gan eich busnes chi ddiddordeb mewn cydweithio mwy â busnesau eraill fel bod pawb yn elwa?
- Ydych chi'n chwilio am help gyda Thechnoleg Gwybodaeth a thechnolegau digidol a fyddai'n dwyn budd i'ch menter gymdeithasol neu gydweithredol?
Gwasanaeth Ymgynghori Canolfan Cydweithredol Cymru yw ein gwasanaeth am ffi sy’n cyd-redeg â’n gwaith sy’n cael ei gyllido gan arian cyhoeddus, yn cefnogi mentrau cymdeithasol a chydweithredol. Mae’r gwasanaeth wedi’i gynllunio ar gyfer cyrff nad ydynt yn gymwys i gael cymorth di-dâl, gan gynnwys adrannau’r llywodraeth, asiantaethau swyddogol, llywodraeth leol a chymdeithasau tai.
Os nad ydych chi'n siŵr pa opsiwn i'w ddewis, cysylltwch â ni.
