Tair menter gymdeithasol o Ogledd Cymru yn cyrraedd y brig
Buddugoliaeth a hanner i Fentrau Cymdeithasol o Ogledd Cymru
Mae tair menter gymdeithasol weithgar wedi dod i'r brig yn y tri chategori sy'n ffurfio Gwobrau Mentrau Cymdeithasol Cymru
Bu dau fusnes arall o'r Gogledd yn llwyddiannus hefyd, gyda Co-options (dolen allanol) o sir Ddinbych yn cyrraedd y rownd derfynol yn y categori Menter Gymdeithasol y Flwyddyn, a Sharon Jones o Crest Co-operative (dolen allanol) yng Nghyffordd Llandudno yn cyrraedd y rownd derfynol yn y categori Arweinydd Menter Gymdeithasol y Flwyddyn.
Gan fod Co-options wedi dod yn ail yn y categori hwn, bydd yn cael gwerth £2,000 o wasanaeth ymgynghori busnes gan fenter gymdeithasol 'CAN', a hynny er mwyn ei helpu i fesur ei ddylanwad cymdeithasol ac economaidd.