Bydd Comisiwn Llywodraeth Cymru’n helpu i ddatblygu’r economi gydweithredol yng Nghymru
Mae Canolfan Cydweithredol Cymru wedi croesawu’r penderfyniad i greu Comisiwn Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru, a gyhoeddwyd ar ddydd Mawrth 17 Gorffennaf, gan Edwina Hart MBE, OStJ AC, y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth.
Mae’r Comisiwn, a fydd yn cael ei gadeirio gan yr Athro Andrew Davies, Ymgynghorydd Strategol Prifysgol Abertawe, wedi cael gorchwyl i wneud argymhellion ynghylch tyfu a datblygu’r economi gydweithredol a chydfuddiannol yng Nghymru, er mwyn creu swyddi a chyfoeth i ategu nodau ac uchelgeisiau Llywodraeth Cymru.
Mae’r Comisiwn yn cael ei lansio i gyd-daro â Blwyddyn Ryngwladol Mentrau Cydweithredol y Cenhedloedd Unedig 2012.
Dangosodd gwaith ymchwil a gyhoeddwyd ym mis Ionawr gan Ganolfan Cydweithredol Cymru i nodi dechrau’r Flwyddyn Ryngwladol fod cwmnïau cydweithredol yng Nghymru’n creu incwm o dros £1biliwn y flwyddyn ac yn cynnig ffordd brofedig o ddatblygu economi fwy cynaliadwy, gan fynd i’r afael â diweithdra ac anghydraddoldeb ar yr un pryd.
Datgelodd ‘Mentrau Cydweithredol yn Economi Cymru’ – a ysgrifennwyd gan Sefydliad Bevan – fod mentrau cydweithredol eisoes yn rhan ddynamig, ffyniannus o economi Cymru a’u bod yn cyflogi tua 7,000 o bobl ym mron pob sector, o adwerthu a gwasanaethau ariannol i ffermio, fferylliaeth, ynni adnewyddadwy, gweithgynhyrchu a’r celfyddydau.
Rhoddodd Derek Walker, Prif Weithredwr Canolfan Cydweithredol Cymru, gymeradwyaeth i sefydlu’r Comisiwn, gan ddweud: “Bydd sefydliadau yn y sector cydweithredol wrth eu bodd bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu sefydlu Comisiwn Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol yn ystod Blwyddyn Ryngwladol Mentrau Cymdeithasol y Cenhedloedd Unedig. Mae cwmnïau cydweithredol eisoes yn chwarae rhan arwyddocaol yn economi a chymdeithas Cymru. Bydd y Comisiwn yn ystyried y manteision sydd i’w cael o rôl fwy eang i gwmnïau cydweithredol a chydfuddiannol yn y dyfodol a sut y gellid cynnal y rôl hon.”
Bydd Mrs Hart yn gwneud cyhoeddiad pellach ar aelodaeth y Comisiwn ar ôl toriad yr haf.