Yr Adroddiad Busnes Bom Amser
All perchnogaeth gweithwyr helpu i atal bom amser olyniaeth busnes yng Nghymru rhag ffrwydro?
Gallai bom amser olyniaeth busnes fod ar fin achosi niwed i economi Cymru, oni bai bod strategaethau ymadael arloesol yn cael eu hyrwyddo ymhlith busnesau Cymru a'u defnyddio ganddynt. Dyma neges allweddol adroddiad newydd a gyhoeddwyd gan Ganolfan Gydweithredol Cymru
Perchnogaeth Gweithwyr: Atal bom amser olyniaeth busnes yng Nghymru rhag ffrwydro
Mae'r adroddiad, yn tynnu sylw at y peryglon mae economi Cymru yn eu hwynebu wrth i boblogaeth ei pherchnogion busnes heneiddio. Yn gyffedinol, nid yw perchnogion yn blaenoriaethu amser ar gyfer cynllunio olyniaeth, ac nid oes ganddynt fawr ddim ymwybyddiaeth o ddiffygion tebygol yr opsiynau sydd ar gael iddynt o ran olyniaeth busnes yn yr amgylchedd economaidd presennol. Mae'r adroddiad yn edrych ar y cyfleoedd mae gwahanol fathau o berchnogaeth gweithwyr yn eu cynnig, fel math ar strategaeth ymadael sydd â manteision pendant i'r perchnogion a'r gweithwyr.
Os hoffech gael copi caled, ffoniwch neu anfonwch e-bost atom.
